Datganiad hygyrchedd ar gyfer Gwirio os yw cerbyd wedi'i drethu a gyda MOT

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r gwasanaeth gwirio os yw cerbyd wedi'i drethu a gyda MOT.

Rheolir y wefan hon gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech fod yn gallu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun gael ei wthio oddi ar ymyl y sgrîn
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig neu feddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrîn (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud y wefan mor syml â phosibl i’w deall.

Mae cyngor ar gael ar AbilityNet ynglŷn â gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth am y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF, print mawr, hawdd i’w ddarllen, recordio sain neu braille hygyrch e-bostiwch ein tîm Cyfathrebu Allanol a byddwn yn gweld a allwn helpu, neu cysylltwch â’n Canolfan Gyswllt trwy:

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â’r Rheolwr Gwasanaeth Cerbydau Anthony.bamford@dvla.gov.uk.

Gweithdrefn gorfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’) Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae DVLA wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Yn Flaenoriaeth Isel (WCAG 2.2 AAA)

  • Methodd y lliwiau a ddefnyddiwyd i fodloni'r cymarebau oedd eu hangen i fodloni’r WCAG 2.2 AAA.
  • Defnyddiwyd talfyriadau heb gael eu hehangu.
  • Agorodd dolenni mewn tabiau newydd heb hysbysu’r defnyddiwr.
  • Agorodd dolenni mewn tabiau newydd heb hysbysu’r defnyddiwr, tra hefyd yn bod yn aneglur o'u pwrpas pan ddaethpwyd ar eu traws allan o'u cyd-destun.
  • Nid oedd peth o’r cynnwys wedi'i drefnu gan benawdau tudalennau, gan effeithio ar ddealltwriaeth defnyddwyr darllenwyr sgrin o'r dudalen.

PDFau a dogfennau eraill

Darperir y wybodaeth hon yn ein polisi dogfennau hygyrchedd.

Fideo byw

Nid ydym yn cynllunio ychwanegu capsiynau i ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi’i eithrio o gwrdd â’r rheoliadau hygyrchedd.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Mae DVLA yn gweithio i wella hygyrchedd ei holl wasanaethau. Bydd ein gwasanaethau mwy newydd yn cael eu diweddaru i sicrhau cydymffurfiaeth â safonau hygyrchedd. Mae ein gwasanaethau hŷn yn cael eu hadolygu gyda'r nod o’u hamnewid gyda gwasanaethau symlach a mwy hygyrch yn ystod y 2 flynedd nesaf.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 21 Chwefror 2024. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 21 Chwefror 2024.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 05 Chwefror 2024. Cynhaliwyd y prawf gan y Digital Accessibility Centre Limited.

Gwnaethom ddefnyddio'r dull hwn i benderfynu ar sampl o dudalennau i'w profi:

Taith 1

  • Rhowch Rif Cofrestru’r Cerbyd rydych am ei wirio.
  • Cadarnhewch fod y cerbyd rydych am ei wirio yn gywir drwy ddewis ‘Ie’.
  • Gweld manylion y cerbyd.

Taith 2

  • Dewiswch Rif Cofrestru’r Cerbyd rydych am ei wirio.
  • Cadarnhewch fod y cerbyd rydych am ei wirio yn gywir drwy ddewis ‘Ie’.
  • Ail-rowch y Rhif Cofrestru Cerbyd cywir.

Taith 3

  • Rhowch Rif Cofrestru’r Cerbyd rydych am ei wirio.
  • Cadarnhewch fod y cerbyd rydych am ei wirio yn gywir drwy ddewis ‘Ie’.
  • Dewiswch ‘Gweld cyfraddau treth am y cerbyd hwn’ a rhowch gyfeirnod y ddogfen.
  • Gweld cyfraddau treth cerbyd.

Taith 4

  • Rhowch Rif Cofrestru’r Cerbyd rydych am ei wirio.
  • Cadarnhewch fod y cerbyd rydych am ei wirio yn gywir drwy ddewis ‘Ie’.
  • Dewiswch ‘Gweld cyfraddau treth am y cerbyd hwn’ a rhowch gyfeirnod y ddogfen sy'n anghywir.
  • Ail-rowch y cyfeirnod dogfen cywir.
Tystysgrif Achrediad y Ganolfan Hygyrchedd Digidol, yn agor ffenestr newydd