Datganiad hygyrchedd ar gyfer Gwirio os yw cerbyd wedi'i drethu a gyda MOT
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r gwasanaeth gwirio os yw cerbyd wedi'i drethu a gyda MOT.
Rheolir y wefan hon gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech fod yn gallu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i’r testun gael ei wthio oddi ar ymyl y sgrîn
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig neu feddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrîn (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud y wefan mor syml â phosibl i’w deall.
Mae cyngor ar gael ar AbilityNet ynglŷn â gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth am y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF, print mawr, hawdd i’w ddarllen, recordio sain neu braille hygyrch e-bostiwch ein tîm Cyfathrebu Allanol a byddwn yn gweld a allwn helpu, neu cysylltwch â’n Canolfan Gyswllt trwy:
- e-bostio
- ffonio 0300 790 6802
- sgwrs ar-lein
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â’r Rheolwr Gwasanaeth Cerbydau Anthony.bamford@dvla.gov.uk.
Gweithdrefn gorfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’) Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae DVLA wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
- Ceir rhai enghreifftiau lle mae dolen di-ddisgrifiad yn agor mewn ffenestr newydd a allai fod yn aneglur i ddefnyddwyr darllenydd sgrin. Mae’r enghreifftiau hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1, 2.4.9 (Pwrpas Dolen – Dolen Yn Unig) a 3.2.5 (Newid ar gais).
PDFau a dogfennau eraill
Darperir y wybodaeth hon yn ein polisi dogfennau hygyrchedd.
Fideo byw
Nid ydym yn cynllunio ychwanegu capsiynau i ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi’i eithrio o gwrdd â’r rheoliadau hygyrchedd.
Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Mae DVLA yn gweithio i wella hygyrchedd ei holl wasanaethau. Diweddarir ein gwasanaethau mwy newydd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â safonau Hygyrchedd yn ystod 2020 i yn gynnar yn 2021. Adolygir ein gwasanaethau hŷn ar hyn o bryd gyda’r nod i’w disodli gyda gwasanaethau mwy hygyrch syml yn ystod y 2 flynedd nesaf.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 5 Tachwedd 2020. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 5 Tachwedd 2020.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 21 Hydref 2020. Cafodd y prawf ei gynnal gan Digital Accessibility Centre Limited.
Defnyddiom y dull hwn i benderfynu ar sampl o dudalennau i’w profi:
- Taith 1: Ymholiad llwyddiannus cynhwysol i edrych ar fanylion cerbyd ac i edrych ar gyfraddau treth ar gyfer y cerbyd
- Taith 2: Gwall a gynhyrchwyd gan y system pan nad oedd yn bosibl dod o hyd i gerbyd